National Trust Jobs Near Me – Ceidwad Ardal

Website National Trust

Job Description:

Llais ein tirluniau, hyrwyddwyr cadwraeth a’r rheiny sy’n caru popeth am yr awyr agored. Byddwch yn helpu i gadw cefn gwlad ac arfordir Prydain yn hardd. Gan weithio yn rhai o leoedd a mannau mwyaf godidog y wlad, waeth beth yw’r tywydd, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill a byddwch yn ymdrechu i sicrhau bod tirluniau’n cael eu harddangos ar eu gorau ac yn parhau i syfrdanu ymwelwyr.

Job Responsibilities:

  • Byddwch hefyd yn gyfrifol am helpu i gyfathrebu ein gwaith cadwraeth yn llwyddiannus gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd newydd a phresennol, a hynny drwy ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywysedig a thrwy ymgysylltu gyda chymunedau lleol.
  • Byddwch yn magu ac yn cynnal cysylltiadau proffesiynol cryf gyda chydweithwyr, contractwyr, tenantiaid a rheolwyr tir cyfagos.
  • Byddwch yn gwerthfawrogi’r angen i’n safleoedd cefn gwlad gynhyrchu incwm, felly bydd eich syniadau busnes yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant y tîm.
  • Byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran cynnal safonau rhagorol cyflwyno a chynnal a chadw eiddo, gan lwyddo i gyflawni targedau Dangosyddion Perfformiad Cadwraeth.

Job Requirements:

  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn cynnwys cyflwyno’n gyhoeddus
  • Meddu ar sgiliau trefnu da, yn cynnwys creu rhaglenni gwaith
  • Meddu ar dystiolaeth o reoli ac arwain pobl yn dda
  • Dod o gefndir llwyddiannus o reoli ac arwain materion cydymffurfio gyda gofynion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol
  • Yn gallu rheoli contractwyr a phrosiectau bach, yn cynnwys cyllidebau.
  • Meddu ar brofiad ymarferol o sgiliau cefn gwlad/gwledig
  • Profiad sylweddol o weithio gyda gwirfoddolwyr ac yn gallu dangos empathi tuag atynt
  • Diploma/NVQ3 neu uwch mewn cadwraeth cefn gwlad neu amgylcheddol
  • Profiad o arolygu cynefinoedd a rhywogaethau
  • Meddu ar drwydded yrru lawn y DU
  • Sgiliau adnabod bywyd gwyllt da

Job Details:

Company: National Trust

Vacancy Type: Full Time

Job Location: Caernarfon, Wales, United Kingdom

Application Deadline: N/A

Apply Here

instantcareers.net